Caerphilly county borough business Bryn Meadows Golf, Hotel and Spa will once again return as headline sponsors for the Caerphilly 10k for 2019.
The ‘Bryn Meadows Caerphilly 10k’ will return on Sunday 19th May and is expected to attract around 2,500 runners to take part in the ever-popular event.
Cabinet Member Cllr Nigel George said, “We’re delighted to welcome Bryn Meadows Golf, Hotel and Spa back as headline sponsors of this popular event for the third year running. It’s great to be working alongside a local family run business with similar aims to us; increasing health and wellbeing and attracting visitors to our area.
“With the Caerphilly 10K serving as a platform to help promote and encourage healthy and active living – it is important that all partners share similar values. Bryn Meadows Golf, Hotel and Spa are a great fit, sharing our vision of promoting the importance of active lifestyles”.
Gary Mayo, Director of Bryn Meadows Golf, Hotel and Spa added, “We’re delighted to once again support the Bryn Meadows Caerphilly 10k. Our golf, leisure and spa facilities at the resort are perfect to compliment an active lifestyle.
“Caerphilly County Borough Council have created an increasingly popular event that appeals to all ages and abilities, and I’m looking forward to seeing a record turnout on the start line this year”.
Entry fees for the Bryn Meadows Caerphilly 10k remain fixed at £20 for unaffiliated entries and £18 for concessions and affiliated runners. Entry to the Bryn Meadows Caerphilly 2k also remains fixed at £6.50. Participants for the 2k must be at least eight years of age on the day of the event in order to participate.
Cllr Nigel George added, “The Bryn Meadows Caerphilly 10k is one of the highlights of our annual events programme, attracting thousands of people to Caerphilly from far and wide to participate in what has become one of the largest 10k run events in Wales. I have no doubt this year’s event will be just as popular as ever, and I’m sure all participants will enjoy all that the occasion has to offer”.
For more information, and to sign up for the Bryn Meadows Caerphilly 10k or 2k runs, please visit http://your.caerphilly.gov.uk/10k
Keep up to date with the latest news, announcements and competitions on the Caerphilly 10k by following the Bryn Meadows Caerphilly 10k Facebook page.
Bydd un o fusnesau bwrdeistref sirol Caerffili – ‘Bryn Meadows Golf, Hotel and Spa’ – yn dychwelyd unwaith eto fel y prif noddwr ar gyfer 10 Cilomedr Caerffili yn 2019.
Bydd 10 Cilomedr Caerffili Bryn Meadows yn dychwelyd ddydd Sul 19 Mai, ac mae disgwyl i'r digwyddiad poblogaidd ddenu tua 2,500 o redwyr i gymryd rhan ynddo.
Meddai'r Aelod Cabinet, y Cynghorydd Nigel George, “Rydym wrth ein bodd o groesawu ‘Bryn Meadows Golf, Hotel and Spa’ yn ôl fel prif noddwr y digwyddiad poblogaidd hwn am y drydedd flwyddyn yn olynol. Mae'n wych cael gweithio ochr yn ochr â busnes teuluol lleol sydd ag amcanion tebyg i ni; cynyddu iechyd a lles a denu ymwelwyr i'n hardal.
“Mae 10 Cilomedr Caerffili yn gweithredu fel llwyfan i helpu hyrwyddo ac annog materion byw'n iach ac egnïol – mae'n bwysig bod pob partner yn rhannu gwerthoedd tebyg. Mae ‘Bryn Meadows Golf, Hotel and Spa’ yn gweddu'n berffaith, drwy rannu ein gweledigaeth o ran hyrwyddo pwysigrwydd ffyrdd egnïol o fyw.”
Ychwanegodd Gary Mayo, Cyfarwyddwr ‘Bryn Meadows Golf, Hotel and Spa’, “Rydym yn falch iawn o gefnogi 10 Cilomedr Caerffili Bryn Meadows unwaith eto. Mae ein cyfleusterau golff, hamdden a sba yn berffaith i ategu ffordd egnïol o fyw.
“Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi creu digwyddiad fwyfwy poblogaidd sy'n apelio at bobl o bob oed a gallu, ac rydw i'n edrych ymlaen at weld y nifer fwyaf erioed ar y llinell gychwyn eleni.”
Mae'r ffioedd cofrestru ar gyfer 10 Cilomedr Caerffili Bryn Meadows yn £20 i redwyr sydd ddim yn aelod o glwb a £18 i gonsesiynau a rhedwyr sy'n aelod o glwb. Mae'r ffi cofrestru ar gyfer 2 Gilomedr Caerffili Bryn Meadows yn £6.50. Rhaid i bawb sy'n cymryd rhan yn y ras 2 gilomedr fod o leiaf 8 mlwydd oed ar ddiwrnod y digwyddiad er mwyn cymryd rhan.
Ychwanegodd y Cynghorydd Nigel George, “Mae 10 Cilomedr Caerffili Bryn Meadows yn un o uchafbwyntiau ein rhaglen ddigwyddiadau flynyddol, gan ddenu miloedd o bobl i Gaerffili o bell i gymryd rhan yn yr hyn sydd wedi dod yn un o'r digwyddiadau rhedeg 10 cilomedr mwyaf yng Nghymru. Nid oes gen i unrhyw amheuaeth y bydd digwyddiad eleni yr un mor boblogaidd ag erioed, ac rydw i'n siŵr y bydd pawb sy'n cymryd rhan yn y digwyddiad yn mwynhau'r holl bethau sydd ganddo i'w cynnig.”
Am ragor o wybodaeth, ac i gofrestru ar gyfer 10 Cilomedr neu 2 Gilomedr Caerffili Bryn Meadows, ewch i: http://your.caerphilly.gov.uk/10k/cy
I gael gwybod am y newyddion, y cyhoeddiadau a'r cystadlaethau diweddaraf am 10 Cilomedr Caerffili, dilynwch dudalen 10 Cilomedr Caerffili Bryn Meadows ar Facebook.