Fideo Barefoot Tech

Опубликовано: 13 Июль 2026
на канале: Business Wales/Busnes Cymru
50
1

Mae dylunydd o ABERTAWE a lansiodd ei label ffasiwn gynaliadwy yn ystod cyfnod cloi, yn gwneud tonnau yn y diwydiant gyda chanmoliaethau lu.
Mae Ffion McCormick Edwards, 23 oed, wedi sefydlu Barefoot Tech gyda chefnogaeth Syniadau Mawr Cymru mewn ymgais i fynd i’r afael â’r nifer o hen siwtiau gwlyb nad ydynt yn cael eu defnyddio sy’n ychwanegu at yr effaith amgylcheddol a achosir gan dirlenwi.
Wrth lansio Barefoot Tech, dywedodd Ffion: “Mae wedi bod yn freuddwyd i weld fy musnes yn tyfu yma yng Nghymru dra hefyd yn cadw’n driw i fy ngwerthoedd craidd o deulu a chynaliadwyedd a thargedu cymuned o syrffwyr a mabolgampwyr sy’n ymwybodol o’u harferion prynu. Mae’r gydnabyddiaeth rydw i wedi’i chael hyd yn hyn trwy ennill gwobrau ac ymddangos mewn digwyddiadau diwydiant eiconig fel Wythnos Ffasiwn Llundain wedi bod mor galonogol.”
Wrth drafod manteision Syniadau Mawr Cymru, dywedodd Ffion: “Mae Syniadau Mawr Cymru wedi bod yn system gymorth mor allweddol i mi fel entrepreneur annibynnol. O ran gofynion llym lansio a chynnal busnes - o gofrestru fel masnachwr unigol i dreth - neidiodd Syniadau Mawr Cymru ar waith i'm cefnogi.
“Byddwn yn annog unrhyw entrepreneur ifanc yng Nghymru sydd â syniad busnes – mawr neu fach – i gysylltu â Syniadau Mawr Cymru. Rwyf wedi elwa’n fawr iawn o fy nghyfarfodydd un-i-un misol lle gallaf roi fy holl gynlluniau a syniadau ar y bwrdd a’u mowldio i mewn i gynllun busnes cryf wythnos ar ôl wythnos. Rwyf bob amser yn cael fy ysbrydoli gan adael fy nghyfarfodydd ac yn gosod mwy o nodau i mi fy hun. Fyddwn i ddim lle rydw i heddiw, yn gweithio’n llawn amser fel entrepreneur hunangyflogedig, heb eu cefnogaeth nhw.”

https://www.barefoottech.co.uk/