Fel Prifysgol Noddfa, mae Prifysgol De Cymru (PDC) wedi ymrwymo i greu croeso cynnes i bobl sy'n ceisio noddfa o fewn, a thu hwnt, i'w campysau.
O ddarparu gwersi Saesneg am ddim i gynnig ysgoloriaethau israddedig ac ôl-raddedig, mae PDC yn gweithredu atebion ymarferol i gefnogi ffoaduriaid a phobl sy'n ceisio noddfa.
Mae ymchwil gan Dr Mike Chick, Hyrwyddwr Ffoaduriaid PDC, wedi helpu i wella mynediad at addysg Saesneg ar gyfer ymfudwyr gorfodol yn Ne Cymru ac wedi llywio polisi’r llywodraeth ar ESOL (Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill).
Mae Cynllun Noddfa i Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches yn PDC yn galluogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches i gael mynediad at hyfforddiant a pharatoadau iaith cyn dechrau eu gradd.
Gall academyddion o Syria, sydd wedi cael eu gorfodi i ffoi o’u mamwlad, gael mynediad o bell at gymorth llyfrgell y Brifysgol ac maent yn meithrin cysylltiadau ag academyddion PDC. Mae'r cynllun Cymrodyr hwn yn cael ei redeg mewn partneriaeth â'r Cyngor Academyddion Mewn Perygl (CARA).