Nyrsio | Prifysgol De Cymru

Опубликовано: 05 Август 2026
на канале: University of South Wales
99
2

Ychydig iawn o yrfaoedd sydd yr un mor werth chweil, neu sy'n caniatáu ichi weithio gyda chymaint o amrywiaeth o bobl. Bydd ein cyrsiau Nyrsio yn rhoi'r sgiliau, addysg a hyfforddiant arbenigol i chi i'ch paratoi ar gyfer y gweithle.

Byddwch yn dysgu yn ein cyfleusterau iechyd trawiadol. Mae ein Canolfan Efelychu Clinigol yn atgynhyrchu amgylcheddau clinigol ar gyfer addysg a hyfforddiant. Mae’r rhain yn cynnwys dau fae pedwar gwely i efelychu lleoliad ysbyty, cyfleusterau pediatrig a mamolaeth bwrpasol, gan gynnwys uned gofal arbennig i fabanod, amgylchedd gofal dwys ac adran achosion brys gydag efelychydd ambiwlans llawn offer.